Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol 
 
 Cymryd rhan mewn Chwaraeon mewn Ardaloedd Difreintiedig
 
 Briff Chwaraeon Cymru cyn Ymchwiliad Llafar 
 16 Mawrth 2022
 
 A picture containing shape  Description automatically generated

Mae Chwaraeon Cymru yn croesawu'r cyfle i ddarparu tystiolaeth yn ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Cysylltiadau Rhyngwladol a Chwaraeon i chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig. Credwn y bydd dull rhyngsectorol - wedi'i lywio gan ddata, ynghyd â mentrau polisi amlsector  yn ymestyn manteision chwaraeon i bawb yng Nghymru.

Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw'r llwyfan ar gyfer ymgysylltu ar draws sectorau mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac mae'n ceisio trawsnewid Cymru'n genedl actif. Yn bwysig, nid cenhadaeth i ddim ond Chwaraeon Cymru weithio tuag ati yw'r Weledigaeth. Byddem yn hapus i drafod mwy am y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru gyda'r Pwyllgor.

1.        Beth yw'r prif rwystrau rhag cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig? Sut mae'r rhain yn cyd-fynd â ffactorau eraill?

Yn fras, gall y prif rwystrau i chwaraeon fod yn rhai strwythurol, sefydliadol, personol neu gymdeithasol – ac ym mhob achos bron, maent yn cynnwys cyfuniad o'r rhain. Mae'r rhwystrau hyn yn effeithio ar bobl o leiafrifoedd ethnig, mudwyr, y rhai ag anableddau, pobl oedrannus, plant, menywod a merched a phobl sy'n amrywiol o ran rhyw, ac yn aml nid yw'r materion hyn wedi'u hynysu ond maent yn rhyngsectorol o ran eu natur. Yn nodweddiadol, mae gan gymunedau mewn ardaloedd difreintiedig gyfradd uwch o'r anghydraddoldebau hyn. Mae rhwystrau strwythurol yn bodoli pan nad yw mynediad yn bodoli, pan mae’n gyfyngedig neu pan nad yw'r amgylchedd chwaraeon yn addas, neu pan na ellir ei addasu i ddiwallu anghenion unigolyn. Mae rhwystrau sefydliadol yn golygu nad yw cyfleoedd i gael mynediad i chwaraeon yn amlwg, a/neu wedi’u tynnu oddi wrth unigolyn oherwydd systemau sydd wedi'u cynllunio'n wael; neu systemau sydd wedi'u cynllunio i fod yn addas ar gyfer rhai defnyddwyr yn unig. Bydd elfennau penderfynu personol a chymdeithasol yn golygu wrth i unigolion ddechrau llywio'r rhwystrau strwythurol a sefydliadol – byddant yn wynebu eu heriau unigryw eu hunain, wedi'u seilio'n benodol ar bwy ydynt.

2.       Pa mor glir yw'r darlun sydd gennym o'r lefelau cyfranogiad presennol mewn ardaloedd difreintiedig? A yw'r data presennol yn galluogi ymyriadau polisi i fod yn effeithiol?

Rydym yn sefydliad sy'n cael ei arwain gan fewnwelediad ac felly mae gennym ddarlun clir o lefelau cyfranogiad, rhwystrau a galluogwyr sy'n galluogi pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon. Ein Harolwg Chwaraeon Ysgolyw'r hynaf a'r mwyaf y pen o'i fath yn y byd, ac yr ydym yn hynod falch o'r dull arloesol hwn sy'n arwain y byd o ran mynegi llais disgyblion. Yn yr un modd, mae'r data a gasglwn drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru yn fesur ystadegol cadarn o gymhelliant ac arferion sy'n ymwneud â gweithgarwch corfforol yng Nghymru.  Dyma ddwy enghraifft o sut mae mewnwelediad yn gyrru ymyrraeth polisi yr ydym yn dadlau drosto. Mae ein hymateb ysgrifenedig llawn i'r ymchwiliad hwn yn cynnwys dadansoddiad manwl o'r data hwn. Yn bwysig, rydym hefyd yn gwybod y bydd profiadau byw cymunedau ac unigolion yn amrywio'n fawr ac yn cydnabod pwysigrwydd dod â phrofiadau ansoddol ynghyd gyda data ystadegol.

3.       Sut y dylid defnyddio arian cyhoeddus i gynyddu cyfranogiad mewn ardaloedd difreintiedig?

Wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb parhaus a rhwystrau i gymryd rhan mewn chwaraeon; rydym yn nodi bod tair elfen allweddol i'w hystyried:  amrywiaeth o ran buddsoddiad, amrywiaeth o ran cyfle, ac addewid traws-sector i drawsnewid Cymru'n genedl actif drwy ymrwymiad gweladwy i'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru.

Nid ydym yn ymddiheuro am y ffordd yr ydym yn  buddsoddi mewn chwaraeon yng Nghymru ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi newid y ffordd yr ydym yn gwneud hyn. Mae ein dull buddsoddi bellach yn amrywio yn seiliedig ar bwy a ble rydym yn buddsoddi ond mae bob amser yn gyson o ran un elfen - mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb wrth wraidd y ffordd yr ydym yn defnyddio arian cyhoeddus. Gallwch ddarllen am ein hagwedd tuag at fuddsoddi yma. Mae amrywiaeth o ran cyfle yn elfen sylfaenol o sicrhau bod pobl yn meithrin arferion gydol oes i fod yn actif. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cyfleoedd i gymryd rhan mewn cynigion aml-chwaraeon yn ifanc a chyflymu cyfleoedd lle caiff chwaraeon ei ddarparu ar y cyd â chyfrwng arall – fel y cyfle i wirfoddoli neu ddefnyddio'r Gymraeg. At hynny, ni ddylai darparu cyfleoedd i bobl fod yn actif fod yn gyfrifoldeb i'r sector chwaraeon yn unig. Dylai addewid traws-sector i ystyried chwaraeon a gweithgarwch corfforol ym mhob polisi fod yn ystyriaeth allweddol i lunwyr polisi. Mae ein data'n dweud wrthym na fydd ymyriadau unigol ar eu pen eu hunain yn cael effaith sylweddol ar hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

4.       Pa mor effeithiol yw'r ymyriadau presennol o ran cynyddu cyfranogiad mewn ardaloedd difreintiedig?

Yn Chwaraeon Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddathlu dulliau dysgu a llwyddiannau ein partneriaid ac mae gwaith rhagorol yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda'r sector chwaraeon.  Mae ein hymateb llawn yn arddangos y rhain drwy astudiaethau achos gan ein partneriaid – fel Gemau Stryd a'r Urdd.  At hynny, rydym yn cydnabod y gall gymryd amser i ddysgu am effeithiolrwydd ymyriadau a’u gweithredu, mae ein Harolwg Chwaraeon Ysgol yn hanfodol bwysig o ran deall newid dros amser. Dylid cydnabod hefyd nad yw bob amser yn bosibl rhannu effaith ymyriadau chwaraeon mewn cymdeithas â materion ehangach yn ymwneud ag iechyd, troseddu, addysg, cydlyniant cymunedol a ffactorau eraill sy'n cyfrannu.

5.       A yw'r pandemig wedi achosi unrhyw newidiadau parhaus i lefelau cyfranogiad mewn ardaloedd difreintiedig?

Ar ddechrau'r pandemig, buom yn gweithio gyda Savanta ComRes i helpu i ddeall i ddechrau yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael, neu yn ei chael, ar lefelau gweithgarwch. Ers hynny, rydym wedi deall bod y pôl hwn yn ychwanegiad defnyddiol at y data lefel poblogaeth rydym yn ei gasglu ar hyn o bryd, ac ar ein gwefan, fe welwch ein bod wedi dadansoddi'r data a gawn drwy hyn yn nodweddion demograffig amrywiol.  Yn 2020—21 fe wnaethom adrodd: roedd oedolion hŷn, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a'r rhai â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud llai o weithgarwch nag yr oeddent yn ei wneud cyn y pandemig. Mae ein dadansoddiad cyntaf o'r arolwg hwn ar gyfer 2022 yn cael ei ddadansoddi ar adeg ysgrifennu'r ymateb hwn.

6.       Pa mor effeithiol y mae gwahanol sectorau (e.e. addysg ac iechyd) yn cydweithio i wella cyfranogiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig?

Rydym yn cydnabod y bu newid effeithiol yn y blynyddoedd diwethaf mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol drwy gydweithio â sectorau eraill. Mae ein gwaith sy'n gysylltiedig â Phwysau Iach; Cymru Iach a chyda chydweithwyr Addysg wrth dreialu disgyblion sy'n actif y tu hwnt i'r diwrnod ysgol yn ddwy enghraifft o hyn. Fodd bynnag, rydym yn credu y gallai hyn fynd ymhellach. Rydym yn credu y gallai creu cyfle i ystyried chwaraeon o fewn meysydd cyllideb eraill fod yn un dull o gydnabod ei bwysigrwydd a dangos dull traws-sector o ymdrin â hyn.

7.       A oes enghreifftiau o arfer gorau, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, y dylai Cymru ddysgu ohonynt i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig?

Mae pedwar cyfle allweddol lle credwn y gallai Cymru arwain y byd o ran mynd i'r afael â chymhlethdodau yn y maes hwn. Mae llawer o hyn yr ydym eisoes yn ei wneud ac yn ei wneud yn rhannol yn seiliedig ar arfer gorau rhyngwladol. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae llawer o hyn sy’n cael ei argymell a'i ddarparu yn cael ei wneud gan chwaraeon yn unig. Rydym yn credu y bydd cefnogaeth draws-sector i'r rhain yn drawsnewidiol.

·         Mae cefnogi datblygiad Partneriaethau Chwaraeon i drawsnewid y ffordd y caiff chwaraeon ei ddarparu ar lefel gymunedol leol – wedi'i lywio gan ddull Seland Newydd.

·         Cyflymu Dull Cymru sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn o ymdrin â chwaraeon pan fyddwn yn siarad am chwaraeon yng Nghymru ar lwyfan y byd – mae model tebyg wedi'i fabwysiadu yn Norwy.

·         Ymrwymiad i fodelau sy'n hyrwyddo bod yn Actif y Tu Hwnt i'r Diwrnod Ysgol ac agor cyfleusterau ysgol ar ôl oriau at ddefnydd y gymuned – modelau rhyngwladol lluosog.

·         Cefnogaeth i Chwaraeon ym Mhob Polisi gan gydnabod hyn mewn cyllidebau traws-sector – yn debyg i ymrwymiad Iechyd ym Mhob Polisi (Cymru) a'r Marciwr Cyllideb Lles (Seland Newydd).